Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
04 Tachwedd 2019
SL(5)463 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2019
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
Fe’u gwnaed ar: 28 Hydref 2019
Fe’u gosodwyd ar: 29 Hydref 2019
Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2019